/>
Oct 112021
 
Ofcom Content Board – Non-Executive Director member for Wales

Non-Executive Director member for Wales - Ofcom Content Board

Hyd at 4 diwrnod y mis

Ofcom yw’r rheoleiddiwr ar gyfer diwydiannau cyfathrebiadau’r Deyrnas Unedig (y DU), gyda chyfrifoldebau ar draws teledu, radio, fideo ar-alw, telegyfathrebiadau, cyfathrebiadau di-wifr, a gwasanaethau post. Mae’r rhain yn cynnwys cyfrifoldeb dros oruchwylio darllediadau teledu a radio ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rheoleiddio’r BBC. Mae Ofcom hefyd yn gyfrifol am reoleiddio llwyfannau rhannu fideos yn y DU. Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r gwasanaethau hyn gael mesurau ar waith i ddiogelu pobl ifanc rhag cynnwys a allai fod yn niweidiol, ac i sicrhau bod pob defnyddiwr yn cael ei ddiogelu rhag iaith casineb a chynnwys anghyfreithlon. Mae hwn yn gam cyntaf pwysig tuag at ddiogelu pobl rhag cynnwys niweidiol ar-lein cyn i Ofcom ysgwyddo ei ddyletswyddau ehangach i reoleiddio diogelwch ar-lein.

Pwrpas y swydd

Mae Ofcom wedi bod yn darparu amddiffyniad a sicrwydd i gynulleidfaoedd ar draws teledu, radio a fideo ar-alw ers blynyddoedd lawer. Fodd bynnag, mae’r materion hyn wedi’u gosod fwyfwy o fewn cyd-destun ehangach newidiadau mewn marchnadoedd cyfathrebu, ac yn enwedig rôl y rhyngrwyd a’r cyfryngau digidol.

Wrth i gynulleidfaoedd fynd ar-lein fwy a mwy, rhan allweddol o’n gwaith yw ystyried yr heriau y mae hyn yn eu hachosi i wylwyr a gwrandawyr ac i’r sectorau rydym yn eu rheoleiddio. Mae Bwrdd Cynnwys Ofcom yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith hwn ac yn helpu llywio dulliau rheoleiddio yn y dyfodol. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â ni, ac i helpu llunio polisi mewn byd digidol sy’n newid yn gyflym.

Mae’r Bwrdd Cynnwys yn un o bwyllgorau Bwrdd Ofcom sy’n gyfrifol am ddeall, dadansoddi a hyrwyddo lleisiau a buddiannau'r gwyliwr, y gwrandäwr a'r dinesydd. Mae’n trin ac yn trafod materion lle bydd buddiannau dinasyddion yn mynd y tu hwnt i fuddiannau defnyddwyr, gyda ffocws ar yr agweddau hynny o’r budd cyhoeddus na fydd cystadleuaeth a grymoedd y farchnad yn eu cyrraedd.

Aelodau rhan amser yw mwyafrif aelodau’r Bwrdd Cynnwys ac maent yn dod o gefndiroedd gwahanol ledled y DU. Rydym eisiau denu amrywiaeth eang o ymgeiswyr i ddarparu cydbwysedd da o ran sgiliau a phrofiad o sectorau perthnasol er mwyn cael amrywiaeth o safbwyntiau ac annibyniaeth barn a gwneud penderfyniadau.

Cymwyseddau allweddol a gwybodaeth

Rydym yn bwriadu recriwtio aelod anweithredol newydd i Gymru i ymuno â’r Bwrdd Cynnwys. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n gallu cynrychioli buddiannau a safbwyntiau pobl sy’n byw yng Nghymru ac:

  • sydd â’r gallu i ddeall yr egwyddorion busnes ac economaidd sy’n sail i’r sectorau darlledu yn yr amgylchedd digidol;
  • sydd â phrofiad digidol neu newydd ym maes y cyfryngau, gyda gwerthfawrogiad o natur y sectorau hyn sy’n newid yn gyflym a’r heriau y gallant eu hachosi;
  • sydd â dealltwriaeth gadarn o egwyddorion ac arferion rheoleiddio cynnwys, yn ddelfrydol o safbwynt diwydiant;
  • sydd â dealltwriaeth ragorol o bolisi darlledu a materion rheoleiddio, tirwedd polisi cyfryngau’r DU a’r cyd-destun rhyngwladol perthnasol;
  • sydd â dealltwriaeth o anghenion defnyddwyr a dinasyddion, a’r gallu i weithio’n dda gyda chydweithwyr o Wledydd y DU ar faterion polisi a defnyddwyr;
  • sydd â sgiliau gwneud penderfyniadau cryf a barn gadarn er mwyn sicrhau darpariaeth lwyddiannus mewn sefydliad hynod gymhleth;
  • sydd â sgiliau cyfathrebu cadarn er mwyn cyfrannu’n effeithiol at drafodaethau corff cyhoeddus lefel uchel;
  • sydd ag integriti personol uchel iawn; dealltwriaeth amlwg o’r gofyniad ar Ofcom i wneud penderfyniadau annibynnol o dan bwysau; ac mae
  • hanes o farn olygyddol da a phrofiad o wneud penderfyniadau ar lefel uwch ym maes darlledu yn ddymunol.

Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol.

Rhagor o wybodaeth

Pedwar diwrnod y mis yw’r ymrwymiad amser, gan gynnwys mynychu tua chwe chyfarfod ffurfiol y flwyddyn o’r Bwrdd Cynnwys llawn a phedwar cyfarfod y flwyddyn ar gyfer Pwyllgor Cynghori Cymru.

I wneud cais a chael eich ystyried ar gyfer cyfweliad, rhaid i’ch cais gynnwys CV a llythyr eglurhaol. Rhaid i’ch llythyr eglurhaol ddangos tystiolaeth o sut yr ydych yn bodloni’r cymwyseddau allweddol yn llwyddiannus (a restrir uchod). Gall eich cais fod yn Gymraeg neu yn Saesneg a dylid ei anfon at: [email protected] erbyn 23.00pm Dydd Sul 24 Hydref 2021.

Mae Ofcom yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg, ac ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sy’n cael ei gyflwyno yn Saesneg. Ni ddylai eich llythyr fod yn fwy na phedair ochr A4 o hyd. Cynhelir cyfweliadau yn ystod Tachwedd 2021.

Rhaid datgan a thrafod unrhyw wrthdaro gwirioneddol neu bosibl rhwng buddiannau yn y cyfweliad. Rhaid i ymgeiswyr fod ag integriti personol o safon uchel a sicrhau bod eu hymddygiad yn cyd-fynd â 7 egwyddor bywyd cyhoeddus. Mae’n ofynnol i Aelodau’r Bwrdd Cynnwys weithredu yn unol â Chod Ymddygiad y Bwrdd.

Mae Ofcom yn dymuno denu ymgeiswyr o gronfa dalent mor eang â phosibl ac mae ein proses recriwtio wedi’i chynllunio i gynnwys pob ymgeisydd ac mae’n dilyn ymrwymiad Ofcom i amrywiaeth a chynhwysiad.

Fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, bydd ymgeiswyr sy'n eu hystyried eu hunain yn anabl neu sydd â chyflwr hirdymor yn cael eu gwahodd am gyfweliad os ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd, os hoffai ymgeiswyr gael eu hystyried fel rhan o’r cynllun hwn. Rydym yn ymfalchïo mewn sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei drin yn deg drwy gydol y broses ymgeisio a dethol gan gynnwys gwneud ein proses mor hygyrch â phosibl. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynllun yma ar ein gwefan.

Os hoffech unrhyw addasiadau, cysylltwch â ni yn [email protected]

Up to 4 days per month

Ofcom is the regulator for the UK communications industries, with responsibilities across television, radio, video-on-demand, telecommunications, wireless communications and postal services. These include responsibility for overseeing television and radio broadcasting throughout the United Kingdom, including regulating the BBC. Ofcom is also now responsible for regulating UK-based video sharing platforms. This means that these services will need to have in place measures to protect young people from potentially harmful content, and to ensure that all users are protected from hate speech and illegal content. This is an important first step towards protecting people from harmful content online before Ofcom takes on its wider duties to regulate online safety.

Purpose of the role:

Ofcom has been providing protection and assurance for audiences across television, radio and video-on-demand for many years. Increasingly however, these issues are set within the wider context of changes in communications markets, and particularly the role of the internet and digital media.

As audiences increasingly move online a key part of our work is to consider the challenges this poses for viewers and listeners and for the sectors that we regulate. Ofcom’s Content Board plays a key role in delivering this work and in helping shape future approaches to regulation. This is an exciting time to join us and help shape policy in a fast-changing digital world.

The Content Board is a committee of Ofcom’s Main Board and is charged with understanding, analysing and championing the voices and interest of the viewer, the listener and citizen. It examines issues where the citizen interest extends beyond the consumer interest, with a focus on those aspects of the public interest which competition and market forces do not reach.

The majority of Content Board Members are part-time and drawn from diverse backgrounds across the UK. We want to attract a wide range of applicants to provide a good balance of skills and relevant sector experience on the Content Board in order to create a diversity of perspective and independence of thought and decision-making

Essential Skills and Knowledge:

We’re seeking to recruit one new non-executive member for Wales to join the Content Board. We’re seeking candidates who are capable of representing the interests and opinions of people living in Wales and who have:

  • the ability to understand the business and economic principles underpinning the broadcast sector in the digital environment;
  • digital or new media experience, with an appreciation of the fast-changing nature of these sectors and the challenges they can pose;
  • a strong understanding of the principles and practice of content regulation, preferably gained from the industry side;
  • an excellent understanding of broadcasting policy and regulatory issues, the UK media policy landscape and relevant international context;
  • an understanding of the needs of consumers and citizens, and an ability to work well with colleagues from the UK’s Nations on policy and consumer issues;
  • sound judgement and decision-making to ensure successful delivery in a highly complex organisation;
  • strong communication skills to make an effective contribution to the discussions of a high-level public body;
  • personal integrity of a high order; demonstrable understanding of Ofcom’s need to make independent judgements under pressure; and
  • a track record of good editorial judgement and decision-making at a senior level in broadcasting is desirable.

The ability to speak Welsh is desirable

Further information:

The time commitment is four days a month, including attending approximately six formal meetings a year of the full Content Board.

To apply and be considered for interview stage, your application must include a CV and covering letter. Your covering letter must give evidence of how you successfully meet the key competencies (listed above). Applications can be provided in English or Welsh and should be sent to [email protected] by 23.00pm on Sunday 24 October 2021.

Ofcom welcomes Welsh language applications, and your application will not be treated less favourably than an application sent in English. Your letter should be no more than four sides of A4 in length. Interviews will be held during November 2021.

Potential or actual conflicts of interest must be declared and discussed at interview. Applicants must have personal integrity of a high order and ensure that their conduct accords with the 7 principles of public life. Content Board Members are required to act in accordance with the Board’s Code of Conduct.

Ofcom is a forward-thinking, inclusive employer and recognises the value of diversity to truly “make communications work for everyone”. Here at Ofcom, our vision is to ensure people are part of an environment when they can truly strive and be themselves, therefore we aim to recruit from the widest pool of candidates possible – irrespective of social background, ethnicity, sexual orientation, gender or disability. We are an organisation that strives to be truly representative of the whole of the UK and our aim is to be an employer of choice for everyone.

As a Disability Confident employer, we guarantee to interview disabled applicants who meets the minimum selection criteria of the role as outlined in the job specification, if applicants would like to be considered under this scheme. We pride ourselves on ensuring all candidates are treated fairly throughout the application and selection process including making our process as accessible as possible. You can find more information on the scheme on our website.

Should you require any adjustments to be made, please do contact us directly at [email protected].

Sorry, the comment form is closed at this time.

%d bloggers like this: